Sut mae’n gweithio

Dyma fras amlinelliad o sut rydyn ni’n cynllunio pob seremoni. Peidiwch â phoeni, rydyn ni’n hollol hyblyg ynglŷn â sut rydyn ni’n cydweithio.

  1. Sgwrs am ddim

    Sgwrs heb unrhyw ymrwymiad dros Zoom, neu wyneb yn wyneb yn lleol, i ateb eich cwestiynau am seremonïau gweinyddwyr a’ch tywys drwy’r broses. Dim pwysau o gwbl!

  2. Trefnu’r dyddiad

    Os hoffech chi fwrw ymlaen, byddwn ni’n anfon ein ffurflen archebu a’n contract ac yn gofyn am flaendal i sicrhau’r dyddiad. Unwaith mae wedi’i drefnu, eich dyddiad chi yw e.

  3. Amser busnesu

    Ychydig fisoedd cyn y diwrnod, byddwch chi’n llenwi ein Holiadur i Gyplau. Ydy, mae rhai o’r cwestiynau’n ddigon cawslyd, ond maen nhw’n rhoi popeth sydd ei angen arnon ni. Mae Holiadur Trefniadau hefyd, ar gyfer y pethau ymarferol.

  4. Hoelio’r manylion

    Rydyn ni’n cwrdd (wyneb yn wyneb sydd orau) i fynd drwy’ch atebion, rhannu syniadau a phenderfynu beth i’w gynnwys.

  5. Amser ysgrifennu

    Rydyn ni’n cau’n hunain i ffwrdd ac yn ysgrifennu’ch seremoni. Gyda dau ohonon ni, mae pob drafft yn cael pâr ffres o lygaid. Cewch chi weld y sgript lawn, neu drefn y seremoni yn unig os hoffech chi i’r geiriau fod yn syrpréis.

  6. Bron yno

    Cyfarfod neu alwad olaf i ateb cwestiynau munud olaf, gwneud newidiadau bach a thawelu unrhyw nerfau (mae gwydraid mawr o win yn helpu fel arfer). Gallwn ni ddod i ymarfer hefyd.

  7. Y diwrnod mawr

    Rydyn ni’n cyrraedd o leiaf awr yn gynnar i weld chi, pawb sy’n cymryd rhan a’r lleoliad. Yna mae’n amser cyflwyno seremoni y byddwch chi a’ch gwesteion yn ei chofio am byth.

Gadewch i ni wneud iddo befrio.

Sgwrs am ddim, heb unrhyw bwysau, dros Zoom neu wyneb yn wyneb o gwmpas Aberystwyth.

Trefnwch sgwrs am ddim
Trefnwch sgwrs am ddim