Helo, Huw a Nia ydyn ni

Tîm gŵr a gwraig o weinyddwyr annibynnol dwyieithog yn nhref glan môr Aberystwyth, gyda gwendid mawr am ddillad lliwgar a gormod o lawer o barau o sgidiau.

Huw and Nia at the Wedding Industry Awards
Nia

Bues i’n gyfreithiwr am bymtheg mlynedd, ond doedd eistedd tu ôl i ddesg drwy’r dydd ddim i mi, ac roeddwn i’n ysu am wneud rhywbeth mwy creadigol. Dw i wrth fy modd gyda phriodasau, a fedra i ddim meddwl am ddim byd gwell na helpu cyplau i gynllunio seremoni eu breuddwydion. Y tu allan i Seren Celebrants dw i hefyd yn gweithio gyda Huw yn HAKA Entertainment.

Fe ddysgodd y gyfraith i mi ysgrifennu’n dda, i dalu sylw i’r manylion bach ac, wrth gwrs, i siarad o flaen torf. Mae gen i hefyd wybodaeth eang iawn o ddyfyniadau Friends, sy’n handi’n amlach na fyddech chi’n meddwl.

  • te (sori!)
  • tequila
  • wyau wedi’u sgramblo
  • pobl sy’n neidio’r ciw
Huw

Yn union fel Nia, bues i’n gyfreithiwr am bymtheg mlynedd, ond roedd gen i awydd o hyd i wneud rhywbeth llawer mwy creadigol ac, wel, hwyliog! Yn 2017 sefydlais i asiantaeth adloniant, HAKA Entertainment, a rhoi blaen fy nhroed ym myd priodasau. Ers cymhwyso fel gweinydd annibynnol rydw i wedi plymio i mewn yn llwyr, ac am fyd bywiog, llawn cariad yw e.

Diwrnod fy mhriodas fy hun oedd diwrnod gorau fy mywyd, felly mae helpu cyplau i greu eu diwrnod nhw yn freuddwyd go iawn. Dw i’n addo mynd y filltir ychwanegol i chi, ac os oes gennych chi syniad, waeth pa mor wallgof, gadewch i ni geisio gwneud iddo ddigwydd.

  • ffenigl
  • anibynadwyedd
  • ciwio
  • rhagfarn
  • gwleidyddion yn osgoi cwestiynau

Rhyngom ni mae gennym ni nifer anghyfrifol o sgidiau lliwgar. Allwch chi eu paru nhw?

Siffrwd Sgidiau
The Wedding Industry Awards 2026, Wales winner Welsh National Wedding Awards 2024 Academy of Modern Celebrancy certified celebrant Official Celebrant Directory member

Gadewch i ni wneud iddo befrio.

Sgwrs am ddim, heb unrhyw bwysau, dros Zoom neu wyneb yn wyneb o gwmpas Aberystwyth.

Trefnwch sgwrs am ddim
Trefnwch sgwrs am ddim