Seremonïau enwi

Os nad bedydd traddodiadol yw’ch dewis chi, mae ffordd arall o groesawu rhywun arbennig i’r byd, neu i’ch teulu.

A little one joining in at Kirsty and Joe’s ceremony

01 / 03

Seremonïau enwi babi

Fe ddown ni i adnabod eich teulu, darganfod pam y dewisoch chi’r enw a beth rydych chi’n ei obeithio ar gyfer eu dyfodol, ac yna creu seremoni hyfryd i’w rhannu gyda phawb rydych chi’n eu caru. Mae rhieni bedydd yn draddodiadol yn rhan o seremonïau crefyddol, ond pam ddylai hynny eich atal rhag gofyn i bobl arbennig chwarae rhan fawr ym mywyd eich un bach? “Rhieni tywys”, neu’n ffefryn ni, tylwythen deg o riant bedydd! Gallwn ni ychwanegu defodau hefyd: plannu coeden, cynnau cannwyll a llawer mwy.

Family and friends passing a ribbon round the room

02 / 03

Seremonïau mabwysiadu

Dathlwch aelod newydd o’r teulu gyda’ch holl deulu a ffrindiau. Gwnewch addewid cyhoeddus o gariad ac ymrwymiad, cynhwyswch unrhyw frodyr a chwiorydd, a rhannwch eich gobeithion at y dyfodol. Gallwn ni gynnwys unrhyw gredoau sydd gennych chi.

A colourful celebration at Tanygraig

03 / 03

Seremonïau ailenwi

Gall newid eich enw fod yn gam enfawr wrth fynegi pwy ydych chi go iawn. Pa ffordd well o ddweud wrth y byd na gyda pharti? Ffarweliwch â’r hen a dathlwch y newydd, mewn seremoni sydd wedi’i llunio’n llwyr o’ch cwmpas chi.

Gadewch i ni wneud iddo befrio.

Sgwrs am ddim, heb unrhyw bwysau, dros Zoom neu wyneb yn wyneb o gwmpas Aberystwyth.

Trefnwch sgwrs am ddim
Trefnwch sgwrs am ddim